EIN STORI,
EICH GWYLIAU.
Cychwynnodd y daith yma ddwy flynedd yn ôl pan benderfynodd Ywain a Siwan adeiladu llety gwyliau unigryw a moethus yng nghalon Pen Llyn. Gyda gwaith caled a chefnogaeth teulu a ffrindiau, mi lwyddasant i adeiladu mwy na chwt bugail traddodiadol- mae’n ddihangfa arbennig i westeion. Mi orffennodd y gwaith yn 2023, ac mae’r teulu yn gyffrous iawn i’ch croesawu yno a rhannu’r cwt a’u cariad tuag at yr ardal leol.


Creu’r Cwt
Mae Cwt y bugail wedi ei leoli yng nghalon cefn gwlad Pen Llyn ac mae wedi ei ddylunio a’i greu gyda gofal a llygaid manwl y trydanwr talentog Ywain Peredur Williams. Mae’r llety unigryw wedi ei greu gyda sgiliau crefftwaith traddodiadol sy’n cynnig y profiad gorau bosib i’r gwesteion.
Mae’r cwt yn berffaith ar gyfer chi sydd eisiau denig o fwrlwm bywyd pob dydd a phrofi hyfrydwch byd natur Cymru.

